The Crown Bar, neu
The Crown Liquor Saloon yng nghanol Belfast (
Great Victoria Street) ydi un o’r tafarnau mwyaf trawiadol yn Ynysoedd Prydain. Roedd
gin palaces tebyg iddo ar gael mewn dinasoedd diwydiannol ar hyd a lled Prydain yn ystod Oes Fictoria, ond hyd y gwn i dyma’r unig sefydliad o’r fath. Mae’r addurniadau y tu mewn a thu allan i’r adeilad yn hynod drawiadol.
Mae’r tu allan wedi ei addurno gyda theils
polychromatic. Nodweddir y tu mewn gan fosaics cymhleth, bar wedi ei lunio o ithfaen coch, nenfwd a lloriau cerfiedig, lampau nwy, ffenestri lliw a deg snyg pren addurniedig a drych wal anhygoel.
Mae’n debyg i’r lle agor yn 1826 yn dilyn agor y rheilffordd o Belfast i Lisburn. Y perchenog cyntaf oedd Michael Flanagan, a
The Railway Tavern oedd yr enw gwreiddiol. Ail enwyd, ac ail addurnwyd y dafarn gan fab Michael, Patrick yn 1885. Roedd y cyfnod yn un o oddefgarwch newydd tuag at Babyddiaeth, a daeth hyn a llawer iawn o grefftwyr o’r cyfandir i weithio ar eglwysi Pabyddol y ddinas. Mae’n debyg i rhai o’r rhain wneud y gwaith addurno gyda’r nos er mwyn ennill pres ychwanegol.
Yn ol y chwedl mae’r mosaic o goron ar y llawr yn rhyw fath o gyfaddawd rhwng perchenog y dafarn oedd yn Babydd a’i wraig Brotestanaidd. Mynodd hi ei alw yn The Crown, fel arwydd o deyrngarwch i’r goron. Rhoddodd y gwr fosaic o’r goron ar y llawr wrth y drws fel bod pobl yn cerdded trosto.
Erbyn canol y ganrif ddiwethaf roedd y lle wedi mynd a’i ben iddo braidd, onf fe’i prynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwarwyd £400,000 i’w adnewyddu.
Er ei fod yn Fecca braidd i dwristiaid, mae amrywiaeth o bobl leol yn defnyddio’r lle – ond dydi peint ddim yn rhad yno o bell ffordd. Ta waeth - 'dydi'r
Shankill na'r
Falls ddim ymhell, ac mae diod yn rhad iawn yno.
Fydda i ddim yn cynnwys cymaint a chymaint o luniau gan amlaf - ond mae'r Crown yn eithriad.


