Sunday 1 March 2009

Y Maltings, Efrog





Cafodd y dafarn ei sefydlu yn 1842, a'r Maltings ydi'r trydydd enw iddi. Railway Tavern, a'r The Lendal Bridge Inn oedd yr enwau eraill. Bellach mae'n dy rhydd wedi i'r perchnog presenol, Anita Adams ei brynu gan Bass yn 1992. Mae'n cael ei redeg ar hyn o bryd gan ei merch Maxine a'i mab yng nghyfraith Shaun.

Y Maltings ydi un o dafarnau gorau tref Efrog - tref gydag amrediad eang o dafarnau bendigedig. Mae wedi ei leoli rhwng canol tref Efrog a'r Amgueddfa Drenau Cenedlaethol - sefydliad sy'n cyfiawnhau taith i Efrog ynddo'i hun. Gellir dod o hyd iddo ar waelod Lendal Bridge, ac mae tua thri munud o waith cerdded o'r rheilffordd.

Fel llawer o dafarnau Efrog mae'n gwerthu amrediad o gwrw lleol yn ogystal a seidar traddodiadol. Black Sheep Bitter ydi'r unig gwrw sydd ar gael yn barhaol yno, ond mae chwech cwrw arall ar werth yno pob amser - ond mae'r rhain yn newid o bryd i'w gilydd. Mae'r Dragon's Pantry yn gwerthu danteithion megis brechdannau sglodion anferth a wyau wedi eu piclo. Hyd y gwn i dyma'r unig dafarn gyda thoiled yn y bar - er bod plastic trosto rhag i rhywun ei ddefnyddio.