Saturday 23 May 2009

Y Thomas Maher, Waterford

Tra'n mynd ar un o'r teithiau cerdded sydd ar werth ym mhob tref o unrhyw faint yn yr Iwerddon, arhosodd y tywysydd y tu allan i'r Thomas Maher. Eglurodd bod y dafarn hyd yn ddiweddar yn gwbl unigryw - dyma'r unig dafarn yn y wlad na fyddai'n gadael unrhyw ferched i mewn ag eithrio gwraig y perchenog. Gweithio y tu ol i'r bar oedd honno.

Roedd hyn yn groes i gyfraith Iwerddon ac Ewrop, ond doedd dim botwm o ots gan Mr Maher am hynny. Eglurodd bod Mr Maher bellach wedi marw (roedd yn ei nawdegau), ac mai ei wraig oedd yn cadw'r lle bellach. 'roedd hi wedi newid y polisi (os mai dyna'r gair) a bellach mae'r lle yn agored i bawb.

Felly dyma fynd i'r Thomas Maher efo'r wraig gyda'r nos i gael gweld y lle. Tafarn moel, glan, di rodres - ac mae'n rhaid dweud eithaf gwag. O - a 'doedd y polisi heb newid - cafodd Nacw ei hel allan cyn i'w throed gyffwrdd ochr fewnol y trothwy.

Llun o'r Thomas Maher a'r wraig yn cael ei thaflu allan o'r cyfyw dafarn:


Sunday 1 March 2009

Y Maltings, Efrog





Cafodd y dafarn ei sefydlu yn 1842, a'r Maltings ydi'r trydydd enw iddi. Railway Tavern, a'r The Lendal Bridge Inn oedd yr enwau eraill. Bellach mae'n dy rhydd wedi i'r perchnog presenol, Anita Adams ei brynu gan Bass yn 1992. Mae'n cael ei redeg ar hyn o bryd gan ei merch Maxine a'i mab yng nghyfraith Shaun.

Y Maltings ydi un o dafarnau gorau tref Efrog - tref gydag amrediad eang o dafarnau bendigedig. Mae wedi ei leoli rhwng canol tref Efrog a'r Amgueddfa Drenau Cenedlaethol - sefydliad sy'n cyfiawnhau taith i Efrog ynddo'i hun. Gellir dod o hyd iddo ar waelod Lendal Bridge, ac mae tua thri munud o waith cerdded o'r rheilffordd.

Fel llawer o dafarnau Efrog mae'n gwerthu amrediad o gwrw lleol yn ogystal a seidar traddodiadol. Black Sheep Bitter ydi'r unig gwrw sydd ar gael yn barhaol yno, ond mae chwech cwrw arall ar werth yno pob amser - ond mae'r rhain yn newid o bryd i'w gilydd. Mae'r Dragon's Pantry yn gwerthu danteithion megis brechdannau sglodion anferth a wyau wedi eu piclo. Hyd y gwn i dyma'r unig dafarn gyda thoiled yn y bar - er bod plastic trosto rhag i rhywun ei ddefnyddio.