Saturday 23 May 2009

Y Thomas Maher, Waterford

Tra'n mynd ar un o'r teithiau cerdded sydd ar werth ym mhob tref o unrhyw faint yn yr Iwerddon, arhosodd y tywysydd y tu allan i'r Thomas Maher. Eglurodd bod y dafarn hyd yn ddiweddar yn gwbl unigryw - dyma'r unig dafarn yn y wlad na fyddai'n gadael unrhyw ferched i mewn ag eithrio gwraig y perchenog. Gweithio y tu ol i'r bar oedd honno.

Roedd hyn yn groes i gyfraith Iwerddon ac Ewrop, ond doedd dim botwm o ots gan Mr Maher am hynny. Eglurodd bod Mr Maher bellach wedi marw (roedd yn ei nawdegau), ac mai ei wraig oedd yn cadw'r lle bellach. 'roedd hi wedi newid y polisi (os mai dyna'r gair) a bellach mae'r lle yn agored i bawb.

Felly dyma fynd i'r Thomas Maher efo'r wraig gyda'r nos i gael gweld y lle. Tafarn moel, glan, di rodres - ac mae'n rhaid dweud eithaf gwag. O - a 'doedd y polisi heb newid - cafodd Nacw ei hel allan cyn i'w throed gyffwrdd ochr fewnol y trothwy.

Llun o'r Thomas Maher a'r wraig yn cael ei thaflu allan o'r cyfyw dafarn:


Sunday 1 March 2009

Y Maltings, Efrog





Cafodd y dafarn ei sefydlu yn 1842, a'r Maltings ydi'r trydydd enw iddi. Railway Tavern, a'r The Lendal Bridge Inn oedd yr enwau eraill. Bellach mae'n dy rhydd wedi i'r perchnog presenol, Anita Adams ei brynu gan Bass yn 1992. Mae'n cael ei redeg ar hyn o bryd gan ei merch Maxine a'i mab yng nghyfraith Shaun.

Y Maltings ydi un o dafarnau gorau tref Efrog - tref gydag amrediad eang o dafarnau bendigedig. Mae wedi ei leoli rhwng canol tref Efrog a'r Amgueddfa Drenau Cenedlaethol - sefydliad sy'n cyfiawnhau taith i Efrog ynddo'i hun. Gellir dod o hyd iddo ar waelod Lendal Bridge, ac mae tua thri munud o waith cerdded o'r rheilffordd.

Fel llawer o dafarnau Efrog mae'n gwerthu amrediad o gwrw lleol yn ogystal a seidar traddodiadol. Black Sheep Bitter ydi'r unig gwrw sydd ar gael yn barhaol yno, ond mae chwech cwrw arall ar werth yno pob amser - ond mae'r rhain yn newid o bryd i'w gilydd. Mae'r Dragon's Pantry yn gwerthu danteithion megis brechdannau sglodion anferth a wyau wedi eu piclo. Hyd y gwn i dyma'r unig dafarn gyda thoiled yn y bar - er bod plastic trosto rhag i rhywun ei ddefnyddio.

Sunday 9 November 2008

Y Vulcan, Caerdydd





Saif y Vulcan gyferbyn ag adeilad newydd ATRIuM Prifysgol Morgannwg wrth y bont oedd yn gwahanu Adamsdown a chanol y dref yn draddodiadol.

Adeiladwyd yn 1853, mae'n un o'r tafarnau hynaf yng Nghaedydd a'r hynaf i gadw ei enw. Mae'n anarferol hefyd oherwydd iddo gael ei godi ar gors oedd yn is na lefel y mor.

Duw Tan ydi ystyr Vulcan - fe'i codwyd yn ymyl gwaith haearn yn Balls Road. Roedd docwyr Caerdydd yn hoff iawn ohono yn yr hen ddyddiau gan ei fod ar y ffordd adref o'r gwaith i lawer ohonynt. Roedd yn arbennig o boblogaidd gyda Phabyddion oherwydd ei fod rhwng y dociau a rhan Pabyddol y ddinas yn Newtown. Aeth taid fy ngwraig (oedd yn ddociwr yng Nghaerdydd) ar goll am ddiwrnod ar ol methu dychwelyd o'r dociau. Cafwyd hyd iddo'n feddw gaib ymysg Pabyddion yn y Vulcan. 'Dwi ddim yn siwr os mai'i medd dod ynteu'r cysylltiadau Pabyddol oedd y cywilydd teuluol mwyaf.

Mae mynd i mewn i'r dafarn yn gam gwirioneddol yn ol mewn amser - fel hyn roedd tafarnau yn edrych pan ddechreuais i fynychu'r llefydd ddeg mlynedd ar hugain yn ol. Thema forwrol sydd iddo, ac mae digon o arteffactau morwrol yno.

Bwriedir chwalu'r dafarn ym Mehefin eleni, a bwriedir adeiladu maes parcio enfawr ar gyfer 3,000 o geir ar y safle. Mae ymgyrch ar y gweill i'w achub. Gellir arwyddo i'w arbed yma.

Diweddaraf - ymddengys bod yr ymdrech i achub y lle gyda gobaith o lwyddo.

Friday 27 July 2007

Y Peadar O'Donnell, Derry

Lleolir y dafarn enwog yma yn Waterloo Street, Dinas Derry. Cymeriad yn hanes diweddar Gogledd Orllewin Iwerddon oedd y Peadar O'Donnell gwreiddiol. Gweler yma.

Lleolir y dafarn drws nesaf i far arall o'r enw The Gweedore Bar, ac mae drws yn cysylltu'r ddau sefydliad - mae'r ddau le yn rhannu perchnogion. Mae'r ddau le yn enwog am eu cerddoriaeth byw, gyda'r Peadar_O'Donnell yn arbenigo mewn cerddoriaeth Gwyddelig traddodiadol a'r Gweedore yn darparu cerddoriaeth mwy modern. Yn naturiol adlewyrchir y gwahaniaeth cerddoriaeth gan y cleiantiaid - pobl ifanc fydd yn mynychu'r Gweedore a phobl hyn sy'n mynychu'r Peadar. Ceir cerddoriaeth nosweithiol yn y Peadar.



Mae'r Peadar wedi ei addurno'n helaeth - yn rhannol ar rhyw led thema siop bentref hen ffasiwn (ceir cigoedd ffug yn hongian o'r distiau, ac yn rhannol i adlewyrchu gwleidyddiaeth yr ardal - mae Waterloo Street yn eithaf agos at y Bogside, o phobl o'r ardal honno ydi llawer o'r yfwyr. Felly ceir llawer o faneri ar y to - rhai gwledydd bach megis Cymru a Gwlad y Basg,Catalonia yn ogystal a Phuerto Rica a Phalesteina.



Nodwedd arall o'r addurno ydi'r hetiau bowler a'r sashes sy'n sownd yn y distiau - ymddengys bod yr eitemau wedi eu dwyn yn ystod ymladd gydag aelodau o'r Urdd Oren tros y blynyddoedd. Mae olion dannedd ar un o'r hetiau. Brawd dirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuiness ydi perchenog presenol y ddau sefydliad.

Thursday 26 July 2007

Y Black Boy, Caernarfon

O’r Crown i’r Black Boy – y dafarn ‘dwi’n mynd iddi amlaf y dyddiau hyn am wn i.




Mae’r adeilad yn hen – hen iawn - circa 1522 yn ol yr arwydd ar y tu allan. Mae’n edrych yn hen – y tu mewn a’r tu allan. Ceir distiau tew derw ar hyd y nenfydau isel, paneli pren a muriau mewnol trwchys iawn – tua 4 i 5 troedfedd mewn mannau. Ceir bar, lolfa, ty bwyta. a gwely a brecwast.



Lleolir y dafarn yn Stryd Pedwar a Chwech. Ymddengys bod y stryd fach gul yma sydd yng nghysgod muriau’r dref yn ganolbwynt ardal ‘golau coch’ yn y dref pan roedd y porthladd yn ei anterth yn ystod y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Yn ol un hanes roedd sefydliad cyfagos yn cynnig potel o gin, gwasanaethau putain a gwely am y nos am bedwar a chwech. Bargen fe dybiwn.

Mae gwahanol storiau am y lle. Er enghraifft ceir ysbryd y tu ol i’r bar – meddan nhw – lleian yn cario rosari. Cafwyd hyd i weddillion dynol o dan yr iard rhai blynyddoedd yn ol. Mae’r sawl sydd yn eistedd yn y gadair eisteddfodol a leolir wrth y tan yn y lolfa ac yn yfed peint o Bass yn debygol o faro o fewn yr wythnos fe ymddengys. ‘Dydi’r sefydliad ddim yn gwerthu Bass bellach – ond ‘dwi wedi gwneud yn union hynny lawer gwaith a ‘dwi yma o hyd.

Mae awyrgylch Gymreig iawn yno. Cymry ydi’r rhan fwyaf o’r yfwyr o ddigon – hyd yn oed yng nghanol haf, a Chymry ydi’r sawl sy’n gweithio yno’n ddi eithriad. Mae hyn yn gwahanol iawn i rai o sefydliadau crandiach y dref megis Gwesty’r Celt a Cofi Roc – gweithwyr o Ddwyrain Ewrop a gyflogir yn y lleoedd hyn yn amlach na pheidio. Ceir detholiad eang o ganeuon Cymraeg ar y jiwc bocs.

At ei gilydd mae’n lle gwerth chweil, er bod ambell i bwynt negyddol. Mae angen gwario ar y toiledau, ac mae’r llofftydd yn ol pob son yn gyntefig iawn. Mae llawer o wagle’n cael ei wastraffu oherwydd cynllunio sal. Gall y rheolwr, Elfed, fod yn flin pan mae’n cael diwrnod gwaeth na’i gilydd ac mae’r bar yn gallu bod yn llawn iawn ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.

Tuesday 29 May 2007

The Crown Bar, Belfast

The Crown Bar, neu The Crown Liquor Saloon yng nghanol Belfast (Great Victoria Street) ydi un o’r tafarnau mwyaf trawiadol yn Ynysoedd Prydain. Roedd gin palaces tebyg iddo ar gael mewn dinasoedd diwydiannol ar hyd a lled Prydain yn ystod Oes Fictoria, ond hyd y gwn i dyma’r unig sefydliad o’r fath. Mae’r addurniadau y tu mewn a thu allan i’r adeilad yn hynod drawiadol.

Mae’r tu allan wedi ei addurno gyda theils polychromatic. Nodweddir y tu mewn gan fosaics cymhleth, bar wedi ei lunio o ithfaen coch, nenfwd a lloriau cerfiedig, lampau nwy, ffenestri lliw a deg snyg pren addurniedig a drych wal anhygoel.

Mae’n debyg i’r lle agor yn 1826 yn dilyn agor y rheilffordd o Belfast i Lisburn. Y perchenog cyntaf oedd Michael Flanagan, a The Railway Tavern oedd yr enw gwreiddiol. Ail enwyd, ac ail addurnwyd y dafarn gan fab Michael, Patrick yn 1885. Roedd y cyfnod yn un o oddefgarwch newydd tuag at Babyddiaeth, a daeth hyn a llawer iawn o grefftwyr o’r cyfandir i weithio ar eglwysi Pabyddol y ddinas. Mae’n debyg i rhai o’r rhain wneud y gwaith addurno gyda’r nos er mwyn ennill pres ychwanegol.

Yn ol y chwedl mae’r mosaic o goron ar y llawr yn rhyw fath o gyfaddawd rhwng perchenog y dafarn oedd yn Babydd a’i wraig Brotestanaidd. Mynodd hi ei alw yn The Crown, fel arwydd o deyrngarwch i’r goron. Rhoddodd y gwr fosaic o’r goron ar y llawr wrth y drws fel bod pobl yn cerdded trosto.

Erbyn canol y ganrif ddiwethaf roedd y lle wedi mynd a’i ben iddo braidd, onf fe’i prynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwarwyd £400,000 i’w adnewyddu.
Er ei fod yn Fecca braidd i dwristiaid, mae amrywiaeth o bobl leol yn defnyddio’r lle – ond dydi peint ddim yn rhad yno o bell ffordd. Ta waeth - 'dydi'r Shankill na'r Falls ddim ymhell, ac mae diod yn rhad iawn yno.

Fydda i ddim yn cynnwys cymaint a chymaint o luniau gan amlaf - ond mae'r Crown yn eithriad.









Pam dechrau blog ar dafarnau?

Pam lai?

Mae rhywun rhywsut neu'i gilydd yn cael ei hun yn y llefydd yma braidd yn aml. Waeth i ddyn 'sgwennu am un neu ddau ohonynt.